ClariceTHOMASYn dawel ar ddydd Mercher, Mehefin 2il yng Nghartref Gofal Maes Llewellyn yn 92 mlwydd oed, hunodd Clarice gynt o Tanybryn, Nantgaredig. Priod ffyddlon y diweddar Granville, mam gariadus Gari, mam-yng-nghyfraith hoffus Susan, mam-gu arbennig Elin, Cadi a Gwenno, hen fam-gu Celt, chwaer annwyl, a ffrind arbennig Jim. Angladd preifat dydd Gwener, Mehefin 11eg 2021 yng Nghapel Nantgaredig am 12.00 o'r gloch. Fe fydd yr angladd yn teithio trwy bentref Nantgaredig am 11.50y.b. Croeso i ffrindiau i ddangos eu cefnogaeth. Rhoddion er cof, os dymunir, tuag at Cartref Gofal Maes Llewellyn trwy law Glanmor Evans a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Capel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin SA31 2PG Ffôn: 01267 241626 / 01267 237100
Keep me informed of updates
Add a tribute for Clarice